Mae babi bach tair wythnos oed fu farw wedi iddo gael ei frathu gan gi wedi cael ei enwi.
Ymosododd y ci ar Reggie Young yn ei gartref yn Sunderland fore ddoe.
Cafodd ei gludo i’r ysbyty lle bu farw o ganlyniad i’w anafiadau.
Mae Heddlu Northumbria wedi rhyddhau dyn 30 oed ar fechnïaeth.