Mae’r Arglwydd Ganghellor Michael Gove wedi rhoi canllawiau gramadeg i’w staff yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder er mwyn paratoi llythyron a dogfennau swyddogol.

Mae’r canllawiau, sy’n estyniad o’r “10 rheol aur” gafodd eu llunio gan y cyn-Ysgrifennydd Addysg, yn annog staff i ddefnyddio rhai geiriau a thermau ar draul eraill.

Mae’r canllawiau hefyd yn cynnwys enghreifftiau o gystrawen sy’n dderbyniol, meddai’r Independent on Sunday.

Mae’r ddogfen hefyd yn annog staff i beidio defnyddio talfyriadau o eiriau, ac i beidio defnyddio collnod mewn rhai geiriau.

Dylai llythyron osgoi bod yn hunan-gyfiawn eu naws, meddai.

Ond mae gwrthwynebwyr Gove, gan dynnu ar rai o’i erthyglau fel newyddiadurwr, yn dweud nad yw bob amser wedi cadw at ei reolau ei hunan.