Mae 40 o arbenigwyr wedi bod yn achub dyn o ogof yng Nghatalwnia.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gynorthwyo’r dyn wedi iddo gwympo mwy nag 20 troedfedd i lawr ogof Cuberes yn ardal Conca de Dalt ddoe.
Mae 19 o arbenigwyr achub, meddyg, nyrs, dringwyr tanddaearol a 12 o heddlu wedi bod yn rhan o’r ymdrechion i achub y dyn.
Mae criw meddygol yn aros wrth fynedfa’r ogof i aros am y dyn a thri o ddringwyr eraill.