Mae dyn 43 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dynes 67 oed yn Nhonteg ger Pencoed.

Cafodd corff y ddynes ei ddarganfod brynhawn ddoe.

Mae’r dyn 43 oed yn cael ei holi gan yr heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi cael eu galw toc wedi 5.30 brynhawn ddoe.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.