Mae swyddogion sy’n ymchwilio i dân sydd wedi lladd tri o bobol yn Swydd Derby wedi dweud nad oes esboniad eto am y digwyddiad.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r adeilad yn Langley Mill am 4.04 y bore ma.
Cafodd y tŷ a char eu difrodi yn y digwyddiad.
Mae dyn, dynes a merch fach wedi marw.
Mae nifer o adeiladau cyfagos wedi cael eu gwacáu wedi i nwy ollwng yn dilyn y tân.
Mae ymchwiliad ar y gweill.