Mae un person wedi’i anafu’n ddifrifol wedi gwrthdrawiad rhwng beic a char ar lwybr Etape Eryri.
Digwyddodd y gwrthdrawiad yn Rhyd Ddu, a chafodd y gwasanaethau brys eu galw am 9.52 y bore ma.
Aeth dwy ambiwlans awyr a dwy ambiwlans gyffredin eu galw i’r digwyddiad yng nghanol y pentref.