Mae cannoedd o bobol wedi ymgasglu ger Holyrood i brotestio yn erbyn cyfyngiadau’r coronafeirws yn yr Alban.

Yn eu plith mae rhai sy’n amau bodolaeth y feirws, damcaniaethwyr brechlynnau a’r rhai sy’n gwrthwynebu gwisgo mygydau mewn llefydd cyhoeddus.

Fe wnaethon nhw orymdeithio i adeilad y senedd yng Nghaeredin fel rhan o brotest genedlaethol.

Roedden nhw’n galw am “wrando ar wyddoniaeth” ac yn beirniadu’r cyfryngau prif ffrwd, cwmnïau fferyllol a gwleidyddion.

“Mae’r cyfnod clo yn achosi mwy o niwed na’r feirws,” meddai’r trefnwyr.

“Rydym yn sefyll dros yr hawl i ddewis.

“Na i frechlynnau a mygydau gorfodol.

“Na i gyfnodau clo eilradd.”

Daw’r brotest wrth i Lywodraeth yr Alban gyhoeddi bod 997 o bobol wedi profi’n bositif yr wythnos ddiwethaf – y cynnydd wythnosol mwyaf ers mis Mai.

Mae 2,496 o bobol wedi marw yn y wlad ers dechrau’r ymlediad, a 21,189 o bobol wedi profi’n bositif.