Fe fydd ail refferendwm ar annibynaeth i’r Alban yn anochel os bydd yr SNP yn ennill mwyafrif yn etholiad Senedd yr Alban fis Mai nesaf, yn ôl un o gyn-arweinyddion Llafur yno.
Dywed Kezia Dugdale fod symudiad sylweddol yn y farn gyhoeddus wedi bod tuag at annibyniaeth dros y chwe mis diwethaf, wrth i arolygon barn ddangos cefnogaeth gyson o tua 54-55 y cant.
Mae hi o’r farn fod llawer o’r newid wedi digwydd ymhlith pobl o dan 40 sy’n ystyried eu hunain i’r chwith o’r canol ac a bleidleisiodd Na yn y refferendwm diwethaf.
“Mae’r holl ddadleuon ynghylch sicrwydd economaidd a wnaeth iddyn nhw bleidleisio Na wedi cael eu chwalu gan Brexit, oherwydd pleidleiswyr dros aros ydyn nhw i gyd sy’n teimlo’n flin iawn ynghylch Brexit,” meddai.
Mae ei sylwadau am refferendwm yn ategu barn Prif Weinidog Llafur Cymru ar y mater, sydd wedi dadlau mai gan bobl yr Alban neu bobl Cymru mae’r hawl i benderfynu cynnal unrhyw refferendwm.
“Ddylai’r un arweinydd Llafur ddadlau y gellir rhwystro rhannau o’r Deyrnas Unedig rhag penderfynu ar eu dyfodol eu hunain,” meddai Mark Drakeford yr wythnos ddiwethaf.
Mae sylwadau’r ddau arweinydd Llafur wedi cael eu croesawu gan Keith Brown, dirprwy arweinydd yr SNP.
“Mae’n amlwg fod pob ymgais gan y Torïaid i wadu’r hawl i bobl yr Alban gael dewis dros eu dyfydol yn anghynaliadwy yn ogystal ag annemocratidd,” meddai.
“Mae’r sylwadau hyn gan gyn arweinydd Llafur yr Alban a Phrif Weinidog Llafur Cymru yn dangos y bydd pobl yr Alban yn cael cyfle i ddewis ein dyfodol mewn refferendwm newydd os bydd yr SNP yn ennill yr etholiad y flwyddyn nesaf – yn lle cael San Steffan yn gorfodi ei ddyfodol Torïaidd Brexit ar yr Alban yn erbyn ei ewyllys.”