Mae’r heddlu’n ymchwilio i achosion o drywanu yn Birmingham yn ystod oriau mân y bore pryd y cafodd nifer o bobl eu hanafu.
Cafodd yr heddlu a pharafeddygon eu galw i adroddiadau o ymosodiad â chyllyll yng nghanol y ddinas ychydig funudau i ffwrdd o orsaf New Street.
Yn ôl un tyst, roedd yr ymosodiad yn ymddangos fel dau grwp o fechgyn yn ymladd yn erbyn ei gilydd.
Dywed Heddlu Gorllewin Canolbarn Lloegr fod “nifer” wedi dioddef niweidiau, ond nad ydyn nhw’n sicr ar y funud pa mor ddifrifol yw’r anafiadau.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu y bydd eu hymchwiliadau yn parhau “am beth amser” a phwysodd ar bobl i gadw draw o safle’r ymosodiadau.