Mae llai o bobl â hyder yn y ffordd mae Llywodraeth Prydain yn ymdrin â’r coronafeirws, yn ôl arolwg newydd.
Mae data diweddaraf y Sefydliad Iechyd yn dangos bod 56% o bobl yn meddwl nad yw’r Llywodraeth yn ymdrin yn dda â’r pandemig – o gymharu â 39% ym mis Mai.
Yn yr un modd, mae 50% yn credu hefyd nad yw’r mesurau mae’r llywodraeth wedi eu cymryd yn mynd yn ddigon pell a bod angen gwneud mwy. Mae hyn yn cymharu â 37% a oedd yn credu hyn ym mis Mai.
Mae mwyafrif yn credu hefyd nad yw’r cyngor yn eglur ynghylch faint o bobl a all gyfarfod ei gilydd.
Meddai Dr Jennifer Dixon, prif weithredwr y Sefydliad Iechyd: “Mae rheoli’r pandemig yn dasg anodd a chyfnewidiol, ond mae’r arolwg yma’n dangos lleihad yn hyder y cyhoedd yn y ffordd mae’r Llywodraeth yn ymdrin â’r sefyllfa.
“Mae’r arolwg yn dangos bod y cyhoedd yn barod i gefnogi mesurau pellach i leihau effaith y pandemig, ond mae llawer yn dal yn ansicr o ran pa ragofalon mae angen iddyn nhw eu cymryd.
“Bydd yn allweddol i’r llywodraeth ennill mwy o hyder a dangos mwy o eglurder wrth inni wynebu risgiau pellach Covid-19 y gaeaf yma.”