Mae ymosodiadau gan brotestwyr y mudiad amgylcheddol XR ar bapurau asgell dde fel y Sun, y Telegraph a’r Daily Mail wedi cythruddo aelodau amlwg o lywodraeth Prydain.
Llwyddodd y protestwyr i rwystro copïau o’r papurau teyrngar hyn i’r llywodraeth rhag cael eu dsobarthu ar ôl cynnal blocadau o weithfeydd argraffu yn Broxbourne, Swydd Hertford, a Knowsley ger Lerpwl nos Wener.
Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson fod gweithred o’r fath yn “gwbl annerbyniol”, ac mae adroddiadau fod yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel yn ystyried newid statws XR i’w drin fel grwp troseddol. Mae’r llywodraeth hefyd yn ystyried rhoi mwy o bwerau i’r heddlu amddiffyn “gwasg rydd”.
Roedd y papurau a gafodd eu taro gan y protestwyr yn cynnwys cyhoeddiadau Rupert Murdoch – The Sun, The Times, The Sun On Sunday a The Sunday Times – yn ogystal â The Daily Telegraph a’r Sunday Telegraph, The Daily Mail a Mail On Sunday.
Dywed heddlu Glannau Mersi iddyn nhw arestio 30 o bobl a dywed heddlu Swydd Hertford iddyn nhw fynd â 50 o bobl i’r ddalfa.
Wrth ymateb i feirniadaeth y llywodraeth, meddai llefarydd ar ran XR:
“Mae ein gwasg rydd, ein cymdeithas a’n democratiaeth o dan ymosodiad – gan lywodraeth fethiannus sy’n dweud celwyddau parhaus wrthon ni, sy’n dod yn fwyfwy awdurdodol ac sy’n ein harwain ni tuag at 4 gradd o gynhesu.”