Mae Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid yn galw am brofi mwy o deithwyr mewn meysydd awyr er mwyn lleihau’r angen am hunan-ynysu a chyfnodau cwarantin.

Dywed Nick Thomas-Symonds, AS Torfaen ei bod yn hen bryd adolygu’r dulliau sy’n cael eu defnyddio i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws gan bobl sy’n dychwelyd i Brydain o dramor.

“Dw i’n ysgrifennu i alw am adolygiad ar frys i ddatrys y trefniadau cwarantin dryslyd sy’n colli hyder y cyhoedd a thanseilio’n gallu i gadw pobl yn ddiogel ac arbed swyddi,” meddai, mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel.

“Er mwyn ailadeiladu’r ymddiriedaeth yma, dw i’n galw ar y Llywodraeth i gynnal adolygiad i’r polisi cwarantin, i adrodd o fewn pythefnos.

“Dylai gynnwys amlinellu dewisiadau ar gyfer trefn drylwyr o brofi mewn meysydd awyr, a phrofion dilynol, a fyddai’n helpu lleihau mewn modd diogel yr angen am cwarantin 14 diwrnod.

“Yn wyneb yr heriau anferthol mae’r sector teithio’n ei wynebu a graddfa’r colledion mewn swyddi, mae’n gwneud synnwyr edrych ar y maes hwn fel rhan o becyn ehangach o welliannau i’r drefn brofi.”

Mewn ymateb, meddai llefarydd ar ran y llywodraeth:

“Rydym yn cymryd camau clir a phenderfynol i arafu lledaeniad y feirws ac achub bywydau.”