Mae’r heddlu’n chwilio am un ymosodwr ar ôl cyfres o achosion o drywanu yn Birmingham pryd y cafodd un dyn ei ladd a saith o bobl eraill eu hanafu.

Cafodd plismyn eu galw i ymosodiad â chyllyll yn oriau mân y bore yng nghanol y ddinas.

“Mae dyn wedi marw, dyn arall a dynes wedi dioddef anafiadau difrifol a phump arall hefyd wedi eu hanafu, er na chredir bod eu hanafiadau’n bygwth bywyd,” meddai Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr wrth gyhoeddi ymchwilad i lofruddiaeth.

Dywed y Prif Uwcharolygydd Steve Graham nad oes “unrhyw awgrym o gwbl” fod yr achosion o drywanu yn gysylltiedig â therfysgaeth, a’i bod yn ymddangos bod yr ymosodiadau wedi digwydd “ar hap”.

Does dim tystiolaeth chwaith o ymosodiad casineb yn erbyn unrhyw grwp penodol, na sail i isibrydion ei fod yn ymwneud â phobl “mewn anghydfod dros fyrddau” yng nghanol y ddinas.

Fe ddigwyddodd y pedwar ymosodiad ar strydoedd cyfagos Constitution Hill, Livery Street, Irving Street a Hurst Street heb fod ymhell o orsaf New Street.

Mae swyddogion fforensig wedi bod wrth drwy’r bore yn chwilio’r strydoedd lle bu’r ymosodiad.