Mae tri gwrthryfelwr wedi wedi cael eu saethu’n farw yn Tunisia ar ôl iddyn nhw ymosod â chyllyll ar filwyr gan ladd un ac anafu un arall.

Eithafwyr Islamaidd sy’n cael eu hamau o fod yn gyfrifol am yr ymosodiad yn nhref lan-môr Sousse.

Mae’n ymddangos eu bod, ar ôl gyrru cerbyd i ganol y milwyr, wedi eu trywanu a dwyn eu harfau. Fe fu’r gwrthryfelwyr farw yn y frwydr arfog a ddilynodd rhyngddyn nhw ac aelodau o’r fyddin.

Sousse yw’r dref lle bu’r ymosodiad, y mwyaf marwol yn hanes y wlad, gan eithafwyr y Wladwriaeth Islamaidd yn 2015, pryd y cafodd 38 o bobl eu lladd, y mwyafrif ohonyn nhw yn dwristiaid o Brydain.