Mae ymdrechion swyddogion iechyd i olrhain achosion o’r coronafeirws yn cael ei lesteirio gan bobl ifanc sy’n gwrthod rhannu manylion gyda nhw.
Wrth i glystyrau o achosion o’r haint ddod i’r amlwg yn ardaloedd y Porth a Penygraig yn y Rhondda, mae timau Profi Olrhain Diogelu yn gwneud eu gorau o chwilio am bobl sydd wedi bod mewn cysylltiad â phobl sydd wedi profi’n bositif.
Oedolion ifanc yw cyfran o’r bobl hyn, yn ôl Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n rhybuddio eu bod yn peryglu eu teuluoedd a’u ffrindiau os nad ydyn nhw’n cydweithredu.
“Er mawr siom, mae rhai wedi bod yn gyndyn o rannu manylion o ble maen nhw wedi bod ac â phwy maen nhw wedi bod mewn cysylltiad,” meddai.
“Trwy beidio â rhoi gwybodaeth fanwl i’r timau Profi Olrhain Diogelu, mae’r bobl hyn yn rhoi eu teuluoedd a’u ffrindiau eu hunain mewn perygl.
“Rydym yn eu hannog i feddwl am aelodau eraill o’u cymunedau – yn syml, maen nhw’n rhoi iechyd a bywydau pobl eraill mewn perygl, yn enwedig os ydyn nhw’n dangos symptomau ac os ydyn nhw’n cymysgu yn y gymuned leol.”
Daw ei rybudd ar ôl i 98 o achosion newydd o’r coronafeirws gael eu cadarnhau ledled Cymru dros y 24 awr diwethaf, gyda phryderon fod diffyg cadw pellter cymdeithasol yn arwain at gynnydd cyson.
“Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr achosion positif yng Nghaerffili yn ystod yr wythnos diwethaf,” meddai.
“Mae’n hymchwiliadau’n dangos bod diffyg cadw pellter cymdeithasol gan grŵp bach o bobl o bob grŵp oedran, mewn gwahanol leoliadau, wedi arwain at ledaenu’r feirws i rannau eraill o’r boblogaeth.
“Mae’n glir bod y feirws yn lledaenu’n haws mewn lleoliadau dan do, a dylai pobl fod yn hynod o ofalus wrth gadw pellter cymdeithasol yn yr achosion hyn er mwyn cadw eu hunain a’u teulu a’u ffrindiau mor ddiogel â phosibl.”
Disgyblion yn hunan-ynysu
Yn y cyfamser, fe fydd 21 o ddisgyblion mewn dosbarth ysgol gynradd yn ardal Caerffil yn hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl i aelod o staff yr ysgol brofi’n bositif i’r feirws.
“Mae pawb o rieni’r plant wedi cael eu cynghori ar y broses briodol i’w dilyn,” meddai llefarydd ar ran Ysgol Gynradd y Santes Gwladys, Bargoed ac Awdurdod Addysg Caerffili.
“Rydym yn deall y bydd hyn yn peri pryder i rieni a phlant yn yr ysgol, ond mae’n bwysig nodi bod yr holl fesurau diogelwch sydd ar waith drwy’r holl ysgol yn cael eu dilyn yn fanwl.
“Mae’r ysgol wedi gweithredu’n brydlon ac mae’n cydweithredu â’r tîm Profi Olrhain Diogelu.
“Mae’r ysgol yn dal yn agored ac nid yw’n angenrheidiol i unrhyw blentyn arall hunan-ynysu, cadw draw o’r ysgol na chael eu profi, oni bai eu bod yn datblygu symptomau COVID-19.
“Fe fydd yr ysgol yn parhau i roi diweddariadau rheolaidd i rieni.”