Mae Llywodraeth yr Alban wedi neilltuo arian i 50 o bobol o gefndiroedd ethnig lleiafrifol gael dilyn cwrs arweinyddiaeth.
Nod y cwrs, sy’n cael ei gynnig gan Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Prifysgol John Smith yn Glasgow yw lleihau’r rhwystrau i bobol o gefndiroedd ethnig lleiafrifol wrth geisio am swyddi rheoli ac arwain.
Mae £470,000 wedi’i neilltuo gan y llywodraeth ar gyfer y cwrs sy’n para naw mis.
Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau proffesiynol a phersonol, gan gynnwys negodi a chyfathrebu, ac fe fydd yn cynnwys mentora a lleoliadau ar gyflog byw yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector.
Cyfarwyddwr Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Prifysgol John Smith yw Kezia Dugdale, cyn-arweinydd Plaid Lafur yr Alban.
Ymateb y Llywodraeth
“Mae Llywodraeth yr Alban wedi ymrwymo i sicrhau cydraddoldeb i’r holl bobol o gefndiroedd ethnig lleiafrifol a rhan o hynny yw cymryd camau gweladwy tuag at ddileu rhwystrau a gwella cyfleoedd yn y gymdeithas,” meddai Shirley-Anne Somerville, un o weinidogion Llywodraeth yr Alban.
“Mae gwella cynrychiolaeth ym mhob agwedd ar fywyd yn allweddol i gyflawni’r nod yma a dw i’n falch y bydd Canolfan John Smith yn cyflwyno’r rhaglen bwysig hon.
“Bydd y rhaglen yn rhoi cyfle gwych i hyd at 50 o bobol ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo.
“Dw i eisiau gweld cyfranogwyr talentog o bob agwedd ar fywyd yn cymryd rhan, gan gynnwys y rhai sydd heb ddilyn trywydd academaidd traddodiadol tuag at lwyddiant.
“Gobeithio mai’r canlyniad fydd cynnydd yn nifer y bobol o gefndiroedd ethnig lleiafrifol mewn swyddi arwain sy’n adlewyrchu’r gymdeithas rydyn ni’n byw ynddi.”