Mae 16 o addolwyr wedi’u lladd a dwsinau yn rhagor wedi eu llosgi yn dilyn ffrwydrad nwy ger mosg yn Bangladesh.

Fe ddigwyddodd neithiwr (nos Wener, Medi 4) wrth i bobol addoli ger y brifddinas Dakar.

Roedd bachgen saith oed ymhlith y rhai fu farw.

Mae o leiaf 37 yn rhagor yn derbyn triniaeth am losgiadau i 90% o’u cyrff.

Yn sgil y ffrwydrad nwy, fe wnaeth system awyru’r mosg ffrwydro hefyd.

Mae ymchwiliad ar y gweill.

Mae gosodiadau nwy gwallus yn broblem gyffredin yn y wlad, ac mae gwaith ar y ffyrdd sydd heb ei gynllunio ymlaen llaw yn aml yn arwain at drychinebau.