Mae’r cyflwynydd radio Kevin Johns o Abertawe ar fechnïaeth ar ôl bod gerbron llys i wynebu dau gyhuddiad o ddau ymosodiad anweddus ar fachgen 14 oed yn y 1980au.

Aeth y dyn 59 oed, sydd hefyd yn gyhoeddwr yn Stadiwm Liberty, gerbron Llys y Goron Caerdydd ddoe (dydd Gwener, Medi 4) i wynebu’r cyhuddiadau, ac fe blediodd yn ddieuog.

Bydd dyddiad achos llys yn cael ei bennu maes o law ac mae wedi’i ryddhau ar fechnïaeth yn y cyfamser.

Mae hefyd yn o gyflwynwyr gorsaf radio Sain Abertawe, neu Greatest Hits Radio ar ei newydd wedd, ac roedd Bauer Media, sy’n berchen yr orsaf, wedi dweud eisoes na fyddai wrth ei waith er mwyn cael paratoi ar gyfer yr achos.