Mae Jeremy Miles yn dweud ei bod yn “hollol annerbyniol” nad yw e wedi gallu gweld y Bil Marchnad Fewnol drafft cyn ei gyhoeddi’r wythnos nesaf.
Daw sylwadau’r Cwnsler Cyffredinol rai wythnosau ar ôl i un o bwyllgorau Senedd yr Alban rybuddio yn erbyn gorfodi marchnad fewnol Brydeinig heb gytundeb rhwng y gwledydd datganoledig a Llywodraeth Prydain.
Yn ôl Llywodraeth yr Alban, mae’r cynlluniau am farchnad fewnol ar ddiwedd cyfnod pontio Brexit yn tanseilio grymoedd datganoli Cymru a’r Alban ac maen nhw wedi mynegi pryder gan alw am “barch i’r trefniadau cyfansoddiadol presennol”.
Fis diwethaf, dywedodd Mike Russell, Ysgrifennydd Cyfansoddiad yr Alban, fod Llywodraeth yr Alban yn ystyried camau cyfreithiol i herio’r cynlluniau.
“Mae’n dangos yn glir beth yw agenda Llywodraeth bresennol Prydain, sy’n elyniaethus at ddatganoli ac yn arbennig o elyniaethus at Gymru a’r Alban yn gweithredu eu hawliau datganoli,” meddai.
‘Dim sicrwydd’
Mae Jeremy Miles bellach wedi ychwanegu ei lais at y rhai sydd wedi mynegi pryder am y ddeddfwriaeth.
“O ystyried y bwriad i’w gyhoeddi wythnos nesaf, rwyf wedi gofyn am gael gweld y Bil Marchnad Fewnol drafft ar unwaith,” meddai ar Twitter.
“Chefais ddim sicrwydd y byddem yn ei weld cyn ei gyhoeddi – sy’n hollol annerbyniol gyda deddfwriaeth a allai droi’r setliad datganoli ben i waered.”
O ystyried y bwriad i’w gyhoeddi wythnos nesaf, rwyf wedi gofyn am gael gweld y Bil Marchnad Fewnol drafft ar unwaith.
Chefais ddim sicrwydd y byddem yn ei weld cyn ei gyhoeddi – sy’n hollol annerbyniol gyda deddfwriaeth a allai droi’r setliad datganoli ben i waered.
— Jeremy Miles (@wg_CounselGen) September 3, 2020