Alton Towers
Mae reid arall yn Alton Towers wedi cael ei gau – wythnos ar ôl i bedwr o bobl gael eu hanafu’n ddifrifol mewn damwain ar y rollercoaster The Smiler.
Fe wnaeth y reid i blant The Octonauts ddod i stop ddoe ar ôl i ymwelwyr ddechrau pryderu, yn ôl llefarydd ar ran y parc yn Swydd Stafford.
Bu’n rhaid defnyddio harnais i glymu teithwyr i reilyn, cyn eu hebrwng i ffwrdd.
“Fel rhagofal, mae Alton Towers yn cynnal profion manwl cyn ail-agor yr atyniad i ymwelwyr,” meddai’r llefarydd.
Mae Leah Washington, 17, o Barnsley yn gwella ar ôl iddi golli ei choes yn dilyn y ddamwain ddydd Mawrth diwetha’.
Cafodd 16 o bobol eu hanafu ar y cyfan, ac mae’r parc wedi cyhoeddi y bydd pob un yn cael iawndal.