Ron Moody
Mae’r actor Ron Moody, a oedd yn fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Fagin yn y ffilm Oliver!, wedi marw yn 91 oed.

Fe fu farw’r actor yn yr ysbyty. Roedd wedi bod yn wael ers peth amser, meddai ei asiant.

Cafodd ei enwebu am Oscar ym 1968 am ei berfformiad yn y ffilm Oliver! Roedd hefyd wedi chwarae rhan Fagin ar lwyfan y West End a Broadway cyn ymddangos yn y ffilm.

Roedd wedi cael gyrfa hir ym myd teledu a ffilm, gan gynnwys ymddangosiad yn EastEnders ond mae’n debyg ei fod wedi gwrthod rol y Doctor yn Doctor Who.

Dywedodd ei wraig, Therese: “Fe ddaeth a hapusrwydd i’w deulu a nifer o bobl a bydd colled enfawr ar ei ol. Roedd yn canu hyd at y diwedd.”

Mae’n gadael gweddw a chwech o blant.