Datblygu
Ar drothwy sgwrs arbennig mae Golwg yn cynnal gyda Dave Datblygu, yn Aberteifi, Owain Schiavone sy’n trafod dylanwad y grŵp eiconig
Nos fory mi fyddai’n cael y pleser o holi un o eiconau mwyaf y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes, David R Edwards.
Mae’r sgwrs wedi’i threfnu fel rhan o ymweliad Golwg ar Grwydr ag Aberteifi, y dref a gynhyrchodd y grŵp amgen, arloesol, a hynod ddylanwadol, Datblygu. Mae hefyd yn gyfle i nodi ail-fastro ac ail-ryddhau y casgliad ‘senglau’ Datblygu 1985-1995 ar label Ankst Music fis diwethaf.
Heddiw, mae gennym sin gerddoriaeth hynod o amrywiol sy’n cynnwys cerddoriaeth o bob math o genres ac arddulliau. Rydym hefyd mewn sefyllfa ble mae modd i gerddoriaeth amgen gael llwyfan a gwrandawiad, er y byddai rhai’n dadlau nad ydy’r cyfryngau poblogaidd yn rhoi digon o sylw i gerddoriaeth arbrofol.
Doedd hynny ddim yn wir ar ddechrau’r 1980au, pan oedd pobl fel Dave Datblygu yn ceisio mynegi eu hunain trwy eu cerddoriaeth. Bryd hynny roedd y diwydiant cerddoriaeth Cymraeg yn un cul iawn – oedd, roedd pethau wedi symud ymlaen o’r grwpiau noson lawen ‘neis neis’ yn ystod y 70au, ond anodd iawn oedd cael gwrandawiad i rywbeth oedd wir yn gwthio’r ffiniau ac yn torri tir newydd.
Er gwaetha’r camau cadarnhaol a wnaed gan Sain o ran moderneiddio a phroffesiynoli y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg, doedd grwpiau fel Datblygu ac artistiaid fel Malcolm Neon byth yn mynd i gael cytundeb recordio gan Sain. Annhebygol iawn oedd hi y bydden nhw’n cael eu chwarae ar raglenni Radio Cymru, ac yn sicr bydden nhw byth yn cael cyfle i ymddangos ar orsaf deledu newydd S4C.
Casetiau Neon
Roedd dyfodiad y casét yn allweddol – cyfrwng rhad a hawdd ar gyfer recordio a chyhoeddi cerddoriaeth. Aeth pobl fel Malcolm Gwyon (Neon) ati i ryddhau cerddoriaeth amgen ar gasét gyda’i label Recordiau Neon…ac ymysg y casetiau yna roedd Amheuon Corfforol (Neon 008) gan Datblygu yn Rhagfyr 1982.
Dyna oedd y dechrau i Datblygu, ac erbyn diwedd 1984 roedd tri chasét arall wedi ymddangos ar Neon, sef Trosglwyddo’r Gwirionedd, Fi Du, a Caneuon Serch i Bobl Serchog.
Mae’r stwff cynnar yma’n bwysig o ran gosod cyd-destun, a dangos bod Aberteifi yn ganolbwynt ar gyfer symudiad pwysig iawn ar y pryd (gŵr o Aberteifi ydy Malcolm Gwyon hefyd).
Roedd y cynnyrch cynnar yma gan Datblygu’r arbrofol ac amrwd dros ben, ond roedd yr hyn oedd i dyfu allan o hyn i adael ei farc ar gerddoriaeth Gymraeg gyfoes am y tri degawd oedd i ddilyn – a’r grŵp yn dal i ddylanwadu ar gerddorion ifanc heddiw.
Ac mae hynny’n dod â ni at y casgliad 1985-1995. Beth a gawn ar y albwm yma ydy casgliad o’r cynnyrch a ryddhawyd gan y grŵp ar ffurf senglau, EPs a chyfraniadau at recordiau aml-gyfrannog ar labeli Anrhefn, Ofn ac Ankst yn ystod y degawd ble’r oedd y grŵp ar eu gorau.
Er bod ambell drac gwych o albyms y cyfnod yn eisiau – ‘Cân i Gymru’ o Libertino yr amlycaf efallai – mae’r casgliad yma’n cynnwys caneuon gorau ac amlycaf Datblygu. Mae gen i fy ffefrynnau, rhai am y gerddoriaeth ac eraill am y negeseuon yn y caneuon.
Felly dyma feddwl bod y sgwrs yn Awen Teifi nos Iau yn gyfle da i holi Dave yn fwy manwl am yr hyn sydd wedi ysgogi rhai o’r caneuon cofiadwy yma, a’r negeseuon sydd ynddyn nhw. Gallwch weld y pum cân ddaeth y frig pleidlais Golwg360 drwy ddilyn y linc.
Byddwn ni’n trafod y caneuon yma i gyd yn sgwrs ‘Dished da Dave Datblygu’ yn Awen Teifi, Aberteifi nos fory (11/06/15) am 17:30. Os nad ydach chi’n gallu dod i Aberteifi, yna bydd modd i chi wylio’r sgwrs yn fyw ar app Periscope – lawrlwythwch a dilynwch Golwg360.