Datblygu
Nos fory fe fydd Golwg yn holi un o eiconau mwyaf y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes, David R Edwards o grŵp Datblygu, fel rhan o ymweliad Golwg ar Grwydr ag Aberteifi.
Ac wrth edrych ymlaen at y sgwrs, fe wnaethon ni yma ar golwg360 gynnal pleidlais i ddewis hoff ganeuon y grŵp amgen, arloesol, a hynod ddylanwadol hwnnw.
Bydd y sgwrs yn Awen Teifi nos Iau yn gyfle i holi Dave am beth wnaeth ysgogi rhai o’r caneuon cofiadwy hynny, a’r negeseuon sydd ynddyn nhw.
Ond heb oedi ymhellach dyma Owain Schiavone, fydd yn holi’r cerddor nos fory, yn datgelu’r pum cân ddaeth i frig pôl piniwn golwg360 ‘caneuon gorau Datblygu’:
5. Ga i Fod Sion Corn
Trac o gasgliad Nadoligaidd Blwch Tymer Tymor a ryddhawyd ar Ankst ym 1991. Yn hon mae Dave yn crynhoi rhwystredigaeth chwilio am swydd.
4. Casserole Efeilliaid
Un o ganeuon mwyaf cofiadwy’r grŵp oedd ar yr EP Hwgr-grawth-og ddaeth allan ar label Anrhefn ym 1986. Dim clem be sy’n mlaen yn hon felly edrych mlaen i holi!
3. Maes E
Sengl ‘disg flecsi’ a ryddhawyd gan Ankst ym 1992. Fe’i ail-gymysgwyd gan Llwybr Llaethog ar CD i hyrwyddo gigs Maes-B yn Steddfod 1999, ond hefyd yn enwog gan i Nic Dafis fenthyg enw’r gân ar gyfer y fforwm drafod boblogaidd a sefydlwyd ganddo.
2. Y Teimlad
Cân enwocaf Datblygu efallai? A hynny’n bennaf diolch i fersiwn wych y Super Furry Animals ohoni ar albwm Mwng. Mae fersiwn wreiddiol Datblygu llawn mor drawiadol a chofiadwy. Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar gasgliad aml-gyfrannog Cam o’r Tywyllwch (Anrhefn) ym 1985.
1. Cyn Symud i Ddim
Roedd hon ar ail gasgliad aml-gyfrannog Anrhefn, Gadael yr Ugeinfed Ganfrif, a ryddhawyd ym 1986. I mi, mae’n grynodeb o bopeth da am y grŵp – sŵn arbrofol, geiriau trawiadol ac alaw gref yn sail i’r cyfan. Tiwn!
Fe fydd sgwrs Golwg ‘Dished da Dave Datblygu’ yn Awen Teifi, Aberteifi nos fory (11/06/15) am 17:30. Os nad ydych chi’n gallu mynd i Aberteifi, fe fydd modd i chi wylio’r sgwrs yn fyw ar ap Periscope – lawrlwythwch a dilynwch Golwg360.