Cymru'n herio Gwlad Belg llynedd (llun: CBDC)
Mae S4C wedi cyhoeddi y byddan nhw’n dangos uchafbwyntiau estynedig o’r gêm ragbrofol Ewro 2016 rhwng Cymru a Gwlad Belg nos Wener.

Bydd y rhaglen, fydd yn cael ei chyflwyno gan Dylan Ebenezer a hefyd yn cynnwys Owain Tudur Jones a Malcolm Allen, yn cael ei darlledu am 10.30yh ar ôl y gêm.

Mae S4C wedi ennill hawliau i ddangos uchafbwyntiau o bob un o weddill gemau Cymru yn eu hymgyrch Ewro 2016, gyda’r gemau byw ar hyn o bryd yn cael eu darlledu gan Sky Sports.

Mae’r sianel eisoes wedi cyhoeddi rhaglen bêl-droed ac adloniant ysgafn, Taro’r Bar, fydd yn cael ei dangos nos Iau yma am 10.00yh gan edrych ymlaen at y gêm.

‘Creu hanes’

Mae Golygydd Chwaraeon S4C, Sue Butler, wedi croesawu’r newyddion gan ddweud fod y sianel yn gobeithio body no i’r gwylwyr wrth i’r tîm pêl-droed geisio “creu hanes”.

“Rydym yn falch o gyhoeddi bod S4C wedi sicrhau’r hawliau i ddarlledu uchafbwyntiau pum gêm olaf Cymru yn y rowndiau rhagbrofol,” meddai Sue Butler.

“Gyda Chymru yn agosáu at greu hanes yn y byd pêl-droed, rydym yn falch o allu darparu uchafbwyntiau i ddilynwyr y gêm brydferth.

“Mae’n ategu ein darllediadau byw o Uwch Gynghrair Cymru a thwrnameintiau eraill yng Nghymru.”

Taro’r Bar

Nos fory fe fydd S4C hefyd yn dangos rhaglen newydd Taro’r Bar, fydd yn cyfuno sgwrsio ysgafn am bêl-droed gydag adloniant a diddanwch gyda’r gwesteion.

Os yw’r fformat yn swnio’n gyfarwydd, dyw’r cyflwynydd ddim yn cuddio o’r ffaith bod y rhaglen yn ceisio efelychu rhaglen boblogaidd a chyfarwydd yn y byd rygbi cenedlaethol.

“Fi’n casáu cymharu fe i bethau eraill, ond yn y modd mae Jonathan ymlaen noson cyn gêm fawr, mae hwn arno noson cyn gêm fawr,” meddai Dylan Ebenezer.

“Eistedd lawr gyda gang o gefnogwyr bêl-droed, cwpl o arbenigwyr, a jyst chat show yn eistedd lawr a siarad am bêl-droed – gwneud beth fydd pawb arall yng Nghymru yn ei wneud noson cyn gêm Gwlad Belg.”

Her hedfan

Yn ogystal â’r arbenigwyr pêl-droed Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones, fe fydd yr actorion Huw Rhys ac Aled Pugh hefyd yn rhan o’r rhaglen newydd.

Bu’r ddau actor yn cymryd rhan mewn her arbennig ar gyfer y rhaglen, gan wynebu’i gilydd mewn cwis pêl-droed – ond hynny wrth eistedd ar aden awyren!

“Roedd e’n amhosib eu henwi nhw, doedden ni ddim hyd yn oed yn gallu enwi’r goreuon!” cyfaddefodd Aled Pugh.

“Fi’n credu wnaiff pobl wylio fe a gweld pa mor galed oedd e i rai o ni,” ychwanegodd Huw Rhys.

Mae’r ddau, sydd yn ffrindiau agos, yn falch o weld S4C yn rhoi mwy o sylw at y bêl gron o’r diwedd.

“Roedden ni’n meddwl ei fod e’n hen bryd bod pêl-droed yn dala lan,” meddai Aled Pugh.

“Mae ‘di cymryd bron tair blynedd i ni gael S4C i gytuno i wneud e ond o leiaf ni’n cael gwneud e nawr.”