James Last ym 1975
Mae’r arweinydd seindorf byd enwog James Last wedi marw’n 86 oed yn Florida.

Gwerthodd Last filiynau o recordiau ac roedd yn wyneb cyfarwydd ar y teledu yng ngwledydd Prydain am nifer o flynyddoedd.

Cafodd Last ei eni yn yr Almaen, lle dechreuodd ei yrfa yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.

Mewn datganiad, dywedodd ei reolwr ei fod wedi marw yn dilyn salwch byr.

“Ynddo fe, mae’r byd yn colli llysgennad unigryw.

“Rydym yn ffarwelio â’r dyn, cyfaill a dyn â gweledigaeth, ac roedd ei nerth syfrdanol a’r ffaith ei fod yn agored, yn broffesiynol, yn ddiymhongar ac yn caru bywyd yn golygu ei fod yn eilun ac yn ysbrydoliaeth i gynifer o genedlaethau ar draws y byd,” meddai.