Mae Gŵyl Rhif 6 wedi cyhoeddi y bydd Badly Drawn Boy, Dutch Uncles a Jane Weaver yn curadu llwyfan yng nghoedwig Portmeirion yn ystod yr ŵyl eleni.

Dyma’r tro cyntaf i artistiaid gymryd rheolaeth o lwyfannau’r ŵyl a nos Wener, Badly Drawn Boy fydd wrth y llyw yn Lost in the Woods wrth iddo ddathlu 15 mlynedd ers rhyddhau’r albwm enillodd Wobr Mercury –  ‘The Hour of Bewilderbeast’.

Dutch Uncles yw’r prif atyniad nos Sadwrn gyda chefnogaeth gan Mike Watt o The Stooges, Minutemen, fIREHOSE, Aero Flynn a Ménage à Trois.

A bydd Jane Weaver yn curadu’r noson olaf gyda DJs a chefnogaeth gan Emma Tricca, Novella, Paperdollhouse, Let’s Eat Grandma ac Orlando.

‘Anrhydedd’

Yn ogystal, mae’r ŵyl wedi comisiynu sioe arbennig i’r safle gan yr acrobatiaid awyr, Whispering Woods. Drwy gydol y penwythnos, bydd acrobatiaid yn perfformio yn y coed gan ddod â straeon hynafol yn fyw gan ddefnyddio acrobateg syrcas a cherddoriaeth fyw.

Fe fyddan nhw i gyd yn ymuno ag artistiaid gan gynnwys Metronomy, Belle & Sebastian, Black Grape a’r DJ Mark Ronson yn yr ŵyl, ac mae lein-yp yr artistiaid Cymraeg fydd yno yn cynnwys Gruff Rhys, 9 Bach ac Yws Gwynedd.

Llynedd roedd dros 14,000 o bobl yn yr ŵyl ger Porthmadog bob nos, ac mae Badly Drawn Boy yn ei gweld hi’n “fraint” cael curadu llwyfan mewn lle mor arbennig.

Meddai Badly Drawn Boy: “Dyma fy nhrydedd tro yng Ngŵyl Rhif 6 ac mae’n anrhydedd i guradu’r llwyfan. Bydd hi hefyd yn bleser cael rhywfaint o ffrindiau da i ymuno â mi yn ystod y dydd.

“Gŵyl Rhif 6 yw un o’r gwyliau gorau rwy erioed wedi bod iddi, ac mae chwarae ar lwyfan fel mae’r haul yn machlud dros yr aber yn rhywbeth arbennig iawn.”