Tonfyrddio ym Mharc Glasfryn
Bydd gŵyl gerddoriaeth a thonfyrddio newydd yn cael ei chynnal ym Mhen Llŷn eleni yn sgil penderfyniad trefnwyr Gŵyl Wakestock i gymryd hoe.

Meddai Parc Glasfryn, sydd wedi penderfynu camu i’r bwlch, fod Wakestock wedi bod yn bwysig i’r ardal leol am 14 mlynedd, ac nad oedd ganddyn nhw ddewis ond cynnal rhywbeth yn eu parc tonfyrddio nhw yn ei le.

Bydd yr ŵyl newydd, AWAKE, yn cael ei chynnal ar yr un penwythnos yr oedd Wakestock yn arfer cael ei chynnal sef 10-12 Gorffennaf eleni.

‘Cyfle arbennig’

Mae Parc Glasfryn ger Pwllheli yn cynnwys cyfleusterau bowlio deg, cartio a beics pedair olwyn, yn ogystal â thonfyrddio.

Meddai llefarydd ar ran y parc ei bod hi’n “gyfle arbennig i fynd yn ôl i wreiddiau’r ŵyl donfyrddio” trwy gael cydbwysedd rhwng y chwaraeon a’r adloniant, gyda phawb yn cymysgu ar yr un safle.

Mae Parc Glasfryn yn gweithio gyda Gŵyl Awareness, sy’n codi arian tuag at elusennau cancr trwy elw tocynnau, i drefnu’r ŵyl.

Bydd yr ŵyl elusennol hefyd yn cynnwys chwe llwyfan cerddoriaeth o DJs i reggae, o acwstig i fandiau, yn ogystal â ffair a bwyd.

Ymysg yr artistiaid lleol Cymraeg fydd yn perfformio yn yr ŵyl mae Y Moniars, Sera, Yr Ymylon, Y Galw, Cowbois Celtaidd, Tacsi, Bwncath, Uumar, Radio Rhydd, Aruchel, Castles a Calfari.

Mae tocyn, gan gynnwys gwersylla am dair noson, yn £50. Mae plant o dan 10 oed yn cael mynediad am ddim.