The Gentle Good (Gareth Bonello) enillydd y llynedd
Mae 9 Bach, Candelas, Datblygu a Plu ymysg  yr artistiaid sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni.

Mae Al Lewis, Fernhill, Gwenno, Yws Gwynedd, Geraint Jarman ac R Seiliog hefyd ar y rhestr, a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau ym mis Awst.

Mae’r wobr yn gymwys i gerddoriaeth sydd wedi’i recordio, neu’i ryddhau, yn ystod y cyfnod o 1 Mawrth 2014 hyd at 30 Ebrill eleni.

Dyma’r eildro i’r wobr gael ei chynnal, ac enillwyd y wobr y llynedd gan The Gentle Good (Gareth Bonello) am ei albwm ‘Y Bardd Anfarwol’.

‘Amrywiaeth’

Wrth gyhoeddi’r rhestr dywedodd un o drefnwyr y wobr, Guto Brychan: “Mae’n braf iawn gweld cymaint o amrywiaeth ar restr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni, ac mae’n restr eithaf gwahanol i’r llynedd.

“Mae wedi bod yn flwyddyn dda o ran cynnyrch ac mae’r amrywiaeth ar y rhestr fer yn adlewyrchu hynny.  Cydiodd amryw o’r albymau yn nychymyg y rheithgor, a bydd yn ddiddorol gweld beth fydd barn y beirniaid yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

“Dyma’r eildro i ni gynnig y wobr, a datblygwyd y syniad gan fod yr Eisteddfod yn awyddus i roi sylw haeddiannol i gerddoriaeth sydd wedi’i recordio neu’i chreu’n ddiweddar.  Mae nifer o wahanol ddisgyblaethau’n cael eu gwobrwyo yn yr Eisteddfod, ac mae gwobrau’n bodoli ar gyfer mathau arbennig o gerddoriaeth, a bwriad y wobr hon yw dathlu pob math o gerddoriaeth sy’n cael ei chreu yn y Gymraeg ar hyn o bryd.”

Cyflwynir Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yng Nghaffi Maes B ar y Maes, ddydd Gwener 7 Awst.  Bydd yr enillydd yn derbyn tlws wedi’i gomisiynu’r arbennig ar gyfer yr achlysur.

Y rhestr fer yn ei chyfanrwydd yw:

9 Bach – Tincian

Al Lewis – Heulwen o Hiraeth

Candelas – Bodoli’n Ddistaw

Datblygu – Erbyn Hyn

Fernhill – Amser

Gwenno – Y Dydd Olaf

Yws Gwynedd – Codi/\Cysgu

Geraint Jarman – Dwyn yr Hogyn Nol

Plu – Holl Anifeiliaid y Goedwig

R Seiliog – In HZ