Elton John
Mae disgwyl i filoedd o bobl ddod i Barc Eirias ym Mae Colwyn prynhawn ma wrth i’r canwr Elton John berfformio yng ngogledd Cymru am y tro cyntaf erioed.
Mae trefnwyr y gyngerdd wedi rhoi sicrhad y bydd Elton John, 68, yn perfformio heno ar ôl iddo orfod canslo cyngerdd yng Ngenefa ganol yr wythnos oherwydd problemau gyda’i lais.
Mae mwy na 14,000 o docynnau wedi cael eu gwerthu.
Bydd y giatiau’n agor am 4yp a bydd perfformiad gan Bright Light Bright Light am 6yh cyn i Elton John gamu i’r llwyfan tua 7yh.
Mae pobl yn cael eu cynghori i gyrraedd y stadiwm yn gynnar gan fod disgwyl tagfeydd traffig.