Yr arwydd pren i gofio R Wiliams Parry
Mae arwydd newydd wedi’i godi yn Nyffryn Nantlle sy’n dangos yr union fan lle gwnaeth y bardd R Williams Parry gyflwyno Awdl yr Haf i ddau gyfaill am y tro cyntaf yn 1910.

Cafodd yr arwydd pren ei osod gan Gyngor Gwynedd, ar gais Dyffryn Nantlle 2020, ar y ffordd o Benygroes i Dalysarn, ger Pont Criwiau.

Y geiriau ar y postyn yw: “Ar y bont ym 1910 y cychwynnodd barddoniaeth fodern Gymraeg gyda ‘Awdl yr Haf’ R Williams Parry.”

Mae dyfyniad o’r awdl hefyd yn dilyn: ‘Marw i fyw mae’r haf o hyd’.

Hanes

Yn ôl yr hanes, bu ffrae rhwng R Williams Parry a’i ddau gyfaill pan ddywedodd y bardd nad oedd am anfon ei awdl i gystadleuaeth y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ond cafodd ei berswadio yn y diwedd, a phan enillodd y Gadair yn Eisteddfod 1910, bu’n drobwynt yn hanes barddoniaeth Gymraeg rhwng yr hen ysgol o feirdd a’r ysgol newydd.

Dywedodd yr awdur Angharad Tomos, aelod o Ddyffryn Nantlle2020: “Ers talwm, tynnu arwyddion ffyrdd oedd yn mynd a’m bryd, ond bellach, eisiau codi rhai newydd ydw i.”

Mae taith gerdded ar hyd y llwybr wedi ei threfnu ar 11 Gorffennaf pan fydd Karen Owen yn tywys pobol o Benygroes i Dalysarn gan adrodd barddoniaeth R Williams Parry.