Y penwythnos yma, mae arddangosfa ‘Cloriau’ i’w gweld yn Galeri Caernarfon, yn rhan o ŵyl flynyddol Inc sy’n ymwneud â newyddiadura yng Nghymru.

Yr artist a’r cerddor Rhys Aneurin sydd wedi curadu’r arddangosfa sy’n cynnwys 40 o gloriau albymau’r Sin Roc Gymraeg y 40 mlynedd diwetha, wedi’u dewis gan bobol sy’n ymhel â’r SRG, neu wedi bod yn rhan o’r bwrlwm ar hyd y degawdau.

Cafodd ‘Cloriau’ ei chomisiynu gan yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd i ddathlu 40 mlwyddiant ers i Endaf Emlyn gyhoeddi’r albym gysyniadol gyntaf yr iaith Gymraeg, Salem.

Mae rhai o’r dewisiadau yn agoriad llygad a difyr yw darllen rhesymau ac atgofion personol iawn y detholwyr yn y disgrifiadau bywiog o dan y cloriau.

Isod mae’r cyfle cyntaf i chi gael mwynhau cyfweliadau arbennig a ffilmiwyd yn ystod agoriad yr arddangosfa ar faes y brifwyl yn Eisteddfod Llanelli fis Awst y llynedd.

Un o’r cloriau mwyaf anarferol a gafodd eu dewis yw’r sengl Plop Plops gan U-Thant, y grŵp pync o Gaerdydd – dewis yr awdur Llwyd Owen – sef llun o dŷ bach. Efallai bod cyfraniad y grŵp i fywiogrwydd y Sîn yn niwedd yr 1980au ddim wedi cael y clod haeddiannol. Yn y clip fideo, mae dau o aelodau’r band, sef Rhys Pys, y lleisydd, ac Iwan Pryce yn sgwrsio gyda golwg360 am eu hatgofion o ddyddiau’r grŵp.

Yn ei gyfweliad yntau mae Rhys Aneurin sy’n egluro ei reswm dros wneud y project: “Roeddwn i yn meddwl bod cloriau recordiau Cymraeg heb gael eu rhoi yn y cyd-destun celf,” meddai.

Yn sgwrsio wrth ei ochr mae Gareth Potter, cerddor a fu yn y grwpiau Clustiau Cŵn, Traddodiad Ofnus a Tŷ Gwydr nol yn yr 1970au, yr 1980au a’r 1990 – dewisodd Owain Schiavone o golwg360 un o gloriau feinyl Tŷ Gwydr, Reu Mics ar gyfer yr arddangosfa er mai ond 12 oed ydoedd pan gafodd ei chyhoeddi!

Rhys Aneurin a Gareth Potter yn sgwrsio am Cloriau:

Mae Potter ei hun yn dewis clawr albym Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr, Gwesty Cymru (1979). “Roedd yn record cryf iawn a’r clawr yn cry iawn,” meddai ar y cyfweliad. “Mae’r gân ‘Gwesty Cymru’… yn enghraifft o record pop yr oedd pawb eisio dawnsio iddo ond eto cân oedd yn trafod pethau mwy dwys, mwy tywyll, a llai rhamantus… Doedd e ddim yn sôn am yr oes a fu.

“Roedd yn bwysig iawn yn yr 1980au i fynd yn erbyn y gorffennol ond erbyn hyn rydyn ni’n gallu dathlu’r gorffennol a dathlu popeth Cymraeg sydd wedi bod. Mae’r arddangosfa yn gryf o ran hynny. Mae ganddon ni hanes nawr.”

Mae dau arall wedi ethol cloriau eiconig Jarman – y newyddiadurwr Hefin Wyn wedi mynd am Tacsi i’r Tywyllwch a’r archifydd pop Gari Melville am y record Hen Wlad Fy Nhadau.

Fe ddewisodd y DJ Dyl Mei glawr breuddwydiol record hir Brân, Ail Ddechrau. “O be wn i, doedd y record ddim yn llwyddiant i’r un graddau â Gwymon gan Meic Stevens, Hen Ffordd Gymreig o Fyw, Edward H, na Gwesty Cymru, felly mae’r LP yn dal i fod yn ychydig o gyfrinach, ond fel pob cyfrinach dda, mae’n werth ei rhannu.”

Mae ‘Cloriau’ yn Safle Celf, Galeri, Caernarfon tan ddydd Llun, Mehefin 8. Ewch i http://www.galericaernarfon.com/digwyddiadau/digwyddiadau.php i weld rhagor am ddigwyddiadau Inc.