Academi Dixons Kings yn Bradford
Mae’r heddlu’n chwilio am fachgen 14 oed ar ôl i athro gael ei drywanu heddiw mewn ysgol yng  ngorllewin Swydd Efrog.

Cafodd yr athro 50 oed ei gludo i’r ysbyty yn dilyn yr ymosodiad yn Academi Dixons Kings yn Bradford ar gyfer triniaeth am anaf i’w gorff. Mae mewn cyflwr sefydlog.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Simon Atkinson o Heddlu Gorllewin Swydd Efrog bod y digwyddiad yn un “difrifol iawn”.

“Ar hyn o bryd, nid ydym ni’n credu bod risg pellach i ddisgyblion a staff yr ysgol. Mae gweddill yr ysgol yn parhau ar agor yn ôl yr arfer ac mae swyddogion lleol yn yr ysgol yn cydweithio’n agos gyda’r staff.”

Mae’r bachgen o dras Asiaidd, gyda gwallt tywyll, byr. Cafodd ei weld y tro diwethaf yn gwisgo siaced las yr ysgol.

Cafodd yr heddlu eu galw tua 8.55 y bore ma ar ôl i’r gwasanaeth ambiwlans ymateb i adroddiadau bod aelod o staff wedi cael ei drywanu.