Ifon Williams yn cael triniaeth Llun: Y Byd ar Bedwar
Mae dyn o Wynedd, wnaeth orfod symud i Loegr i gael triniaeth am ganser nad oedd ar gael iddo yng Nghymru, wedi datgelu heddiw fod ei gyflwr yn gwella.

Dywedodd Irfon Williams, sy’n 44 oed ac o Fangor, ei fod “wrth ei fodd” bod scan wedi dangos fod tiwmor ar ei iau wedi lleihau o tua 60%.

Cafodd y tad i bump ddiagnosis o ganser y coluddyn y llynedd, cyn cael gwybod bod y canser wedi ymledu i’w iau hefyd.

Ar ôl ymgyrch hir i gael ei drin yng Nghymru, wedi i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wrthod talu am y cyffuriau roedd o’u hangen, bu’n rhaid iddo symud i fyw at berthnasau dros y ffin.

Mae nawr yn derbyn ei driniaeth yn Ysbyty Christie ym Manceinion.

Cynsail

Dywedodd ei fod yn teimlo ei fod wedi cael ei adael i lawr “gan fy ngwlad fy hun.”

“Mae’r arbenigedd yno ym Mangor i fedru rhoi’r cyffur hwn. Does dim rheswm, oni bai am arian, na alla’i gael y cyffur yno.

“Roedd pobol wedi dweud wrtha’ i na fyddai’r cyffur hwn yn gweithio, ond dw i mor falch fy mod i wedi brwydro i gael Cetuximab. Dwi’n gobeithio y bydd hyn yn gosod cynsail: os yw’n gallu gweithio i mi, pam na all o weithio i bobol eraill hefyd?”

Dywedodd y Gweinidog Iechyd nad oes bwriad i gyflwyno’r cyffur yng Nghrymu.

Fe fydd stori Irfon Williams i’w chlywed ar raglen y Byd ar Bedwar ar S4C ar 23 Mehefin.