Y robin goch
Mae mwy na 200,000 o bobol wedi pleidleisio dros y robin goch fel aderyn ‘cenedlaethol’ gwledydd Prydain.

Cafodd yr ymgyrch ei lansio ar ôl i’r adarwr David Lindo ddarganfod bod gwledydd Prydain yn un o’r unig lefydd yn y byd sydd heb ei haderyn cenedlaethol ei hun.

Y dylluan wen ddaeth yn ail hefo 12% o’r bleidlais a’r deryn du oedd yn drydydd hefo 11%.

Bu pobol yn pleidleisio ar y we, mewn ysgolion a thrwy bleidlais bost a bydd David Lindo nawr yn cynnal trafodaethau gyda’r Llywodraeth er mwyn ceisio cael teitl swyddogol i’r robin goch.