Y difrod wedi daeagryn yn Nepal ym mis Ebrill
Mae tirlithriad gafodd ei achosi gan law trwm wedi dinistrio chwe phentref yn Nepal ac wedi lladd 21 o bobol.

Fe ddigwyddodd y tirlithriad yn ardal Taplejung dros nos, pan oedd pobol yn cysgu yn eu cartrefi yn ôl llefarydd ar ran yr awdurdodau.

Credir bod tua 24 o bobol eraill ar goll ond fe ddywedodd y llefarydd bod y manylion yn aneglur o ystyried ei bod hi’n ardal mor fynyddig.

Mae tirlithriadau yn gyffredin yn ystod y tymor glawog yn Nepal, fydd yn rhedeg tan ddiwedd mis Medi.

Mae’r genedl yn parhau i geisio dygymod ag effeithiau’r daeargrynfeydd ym mis Ebill a Mai wnaeth ladd dros 8,700 o bobol.