Nid yw pob ysgol yng Nghymru yn rhoi cyfle i’w staff ddatblygu sgiliau arwain allweddol ac mae  “prinder arbennig” o hyfforddiant cyfrwng Cymraeg yn y maes – dyna ganfyddiad adroddiad diweddaraf y corff arolygu ysgolion, Estyn.

Roedd athrawon mewn swyddi uwch yn arddangos sgiliau arwain hyderus yn bron pob ysgol yr ymwelodd Estyn â nhw, yn ôl yr adroddiad. Ond nid oedd hynny’n cael ei adlewyrchu ym mhob aelod o staff.

Yn yr ysgolion lle ceir “diwylliant cadarn o ddysgu proffesiynol” – fel Ysgol Gyfun Cwm Rhymni (Caerffili), Ysgol Gyfun Bryngwyn (Sir Gaerfyrddin), Ysgol y Foryd (Conwy) ac Ysgol Dyffryn Ogwen (Gwynedd) – roedd athrawon yn gweithio ar y cyd fel tîm, meddai Estyn.

Fe bwysleisiodd y Prif Arolygydd ei fod yn bwysig bod ysgolion yn cefnogi staff ac y dylid mwy o wybodaeth iddyn nhw am ddatblygiad eu gyrfaoedd.

Potensial

“Mae ymddygiadau arwain cadarn ar bob lefel yn rhan allweddol o greu ysgolion llwyddiannus,” meddai’r Prif Arolygydd Meilyr Rowlands.

“ Mae’n bwysig bod pob ysgol yn cefnogi eu holl staff, gan gynnwys y rhai ar ddechrau eu gyrfa, i ddatblygu eu potensial i arwain.

“Er bod arfer dda mewn rhai ysgolion, nid yw’r cyfle i ddatblygu medrau arwain allweddol ar gael ym mhob ysgol ac mae prinder arbennig o hyfforddiant cyfrwng Cymraeg.”

Argymhellion

Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion i’r ysgolion, gan gynnwys y dylid:

  • Datblygu diwylliant cadarn o ddysgu proffesiynol i staff ar bob lefel
  • Gwella cynllunio ar gyfer olyniaeth
  • Nodi potensial staff i arwain yn gynnar yn ystod eu gyrfa a chefnogi eu datblygiad gyrfaol
  • Defnyddio’r safonau arweinyddiaeth yn sylfaen ar gyfer arfarnu eu medrau arwain eu hunain.

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol roi arweiniad i ysgolion a mwy o gyfleoedd i ddatblygu medrau ac yn olaf, mae’n argymell bod Llywodraeth Cymru’n gweithredu strategaeth ar gyfer datblygu arweinyddiaeth mewn ysgolion.