Mae’r Ysgrifennydd Busnes wedi cyhoeddi bod hanner o gyfran olaf y Llywodraeth yn y Post Brenhinol wedi cael ei werthu, gan godi £750 miliwn.

Dywedodd Sajid Javid bod 15% o’r grŵp wedi cael ei werthu i gyfranddalwyr am 500p am bob cyfran – ychydig yn is na’r pris neithiwr o 516.5p.

Fe fydd 1% yn cael ei werthu i staff y Post Brenhinol, gan olygu y bydd gweithwyr ar draws Prydain yn rhannu siâr o’r cwmni sy’n werth tua £50 miliwn, gan ychwanegu at y 10% a gafodd y gweithlu pan ddechreuodd y cyn Lywodraeth Glymblaid werthu’r cwmni yn 2013.

Dywedodd Sajid Javid bod y gwerthiant yn “rhoi gwerth am arian i’r trethdalwyr”  ac y byddai’r arian yn cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael a dyledion y wlad.

“Mae’r Post Brenhinol wedi dangos y gall ffynnu yn y sector preifat. Mae ganddo nawr y gallu i gael yr arian sydd ei angen i sicrhau dyfodol cynaliadwy fel ei fod yn gallu addasu i’r newidiadau yn y farchnad bost.”

Ond roedd ’na feirniadaeth gan y Blaid Lafur sy’n dweud bod gweinidogion wedi methu a dysgu gwersi o “flerwch” gwerthiant dadleuol y cwmni yn 2013.

Daw’r gwerthiant diweddaraf ar ôl i’r Post Brenhinol gael gwared a 5,500 o staff yn ystod y flwyddyn. Mae’n cyflogi 143,000 o weithwyr yn y DU.

Mae gwerth cyfrannau’r grŵp wedi codi 20% ers dechrau’r flwyddyn.