Llys Hawliau Dynol Ewrop
Mae disgwyl i deulu Jean Charles de Menezes fynd â’u hachos i Lys Hawliau Dynol Ewrop wedi i’r awdurdodau benderfynu peidio erlyn yr heddlu tros ei farwolaeth ar drên tanddaearol Llundain yn 2005.

Bydd y teulu’n cyflwyno’u hachos gerbron Siambr Fawr Strasbwrg ddeng mlynedd wedi i de Menezes gael ei saethu’n farw ar gam gan yr heddlu yn Stockwell ar ôl iddyn nhw gredu ei fod yn frawychwr.

Yn 2006, penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron na ddylid erlyn unrhyw un o ganlyniad i’w farwolaeth.

Cafodd Heddlu Llundain ddirwy o £175,000 yn 2007 wedi i lys eu canfod yn euog o dorri rheolau iechyd a diogelwch.

Gwnaeth rheithgor mewn cwest benderfynu gwrthod disgrifiad yr heddlu o’r hyn oedd wedi digwydd, gan gyflwyno rheithfarn agored, a hynny wedi i’r crwner benderfynu nad oedd de Menezes wedi marw’n anghyfreithlon.

Daeth ei deulu i gytundeb ariannol â Heddlu Scotland Yard yn 2009.

‘Cyfiawnder’

Ond mae cyfreithwyr y teulu’n dadlau erbyn hyn fod erlynwyr wedi torri’r Confensiwn Hawliau Dynol drwy beidio erlyn unigolion.

Maen nhw’n dadlau na ddylid gweithredu ar sail “gobaith go iawn o gael euogfarn”.

Dywedodd cyfnither de Menezes, Patricia da Silva: “Ers deng mlynedd mae ein teulu wedi bod yn ymgyrchu am gyfiawnder i Jean gan ein bod ni’n credu y dylai plismyn fod wedi cael eu dwyn i gyfrif am ei ladd.

“Mae marwolaeth Jean yn boen nad yw byth yn mynd i ffwrdd oddi wrthym ni.

“Ni all unrhyw beth ddod â fe nôl ond rydym yn gobeithio y bydd yr her gyfreithiol yn newid y gyfraith fel nad oes rhaid i unrhyw deulu arall wynebu’r hyn wnaethon ni.”

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi gwrthod gwneud sylw pellach.