Neuadd Pantycelyn
Fe fydd Emyr Llew, Ffred Ffransis a’r Aelod Cynulliad Elin Jones ymhlith y  siaradwyr fydd yn cymryd rhan mewn rali heddiw sy’n galw am achub Neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth.

Daw wedi i un o bwyllgorau’r Brifysgol argymell cau’r adeilad fel neuadd breswyl, heb gynlluniau pendant i’w ail agor.

Cafodd y myfyrwyr wybod ar 21 Mai bod posibilrwydd na fydd ganddyn nhw lety’r flwyddyn academaidd nesa –  a hynny ar ôl ymgyrch hir i achub y neuadd Gymraeg ychydig dros flwyddyn yn ôl.

Barn y brifysgol yw nad yw cyflwr yr adeilad yn ddigon safonol a bod angen ei ailwampio’n llwyr, gan gynnwys ei ail-wifro ac ymdrin â materion diogelwch tân.

Ond mae’r myfyrwyr yn galw am sicrwydd y bydd y neuadd yn ail-agor ac am amserlen o’r gwaith.

‘Di-hid a di-sail’

Mewn datganiad cyn y rali am 1:00 y prynhawn ’ma, dywedodd llefarydd o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth: “Gadewch i ni ddangos i Brifysgol Aberystwyth, unwaith ac am byth, nad ydym ni’n fodlon ildio i benderfyniadau di-hid a di-sail.

“Dydi’r Brifysgol ddim yn cynnig unrhyw sicrwydd nac ymrwymiad i ni o amserlen na chyllid i wneud y gwaith adnewyddu ar Neuadd Pantycelyn. Oherwydd hynny, rydan ni’n llwyr gredu nad oes angen i ni adael yr adeilad ym mis Medi.

Ddoe, roedd 20 o gyn-lywyddion Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) wedi arwyddo llythyr agored yn galw am achub Neuadd Pantycelyn.

Daw’r llythyr ar ôl i staff cyfrwng Cymraeg y brifysgol rhyddhau datganiad ddydd Llun oedd  yn cefnogi’r ymgyrch i achub y neuadd breswyl.