Yr Arglwydd Prescott
Mae’r Arglwydd Prescott wedi cael ei wahardd rhag gyrru am chwe mis ar ôl iddo gael ei ddal yn goryrru yn ei Jaguar.

Cadarnhaodd Llys Ynadon Grantham bod y cyn ddirprwy brif weinidog wedi colli ei drwydded mewn gwrandawiad fis diwethaf ar ôl iddo gael 12 pwynt ar ei drwydded.

Cafodd yr Arglwydd Prescott ei ddal gan yr heddlu yn gyrru 60mya mewn lleoliad oedd a chyfyngiad cyflymder o 50mya ar yr A15 yn Scampton, Swydd Lincoln.

Fe ddigwyddodd y drosedd ar 11 Awst y llynedd.

Yn ogystal â’r gwaharddiad cafodd John Prescott ddirwy o £250, a gorchymyn i dalu costau o £85 yn y gwrandawiad ar 26 Mai.

Mae’r Arglwydd Prescott wedi cael ei ddal yn goryrru sawl gwaith ac wedi cael ei wahardd o’r blaen yn 1991 pan gafodd ei ddal yn gyrru ar gyflymdra o 105mya ar draffordd yr M1.

Dywedodd y cyn AS Llafur ei fod wedi bod yn gyrru nôl adref i Hull yn hwyr gyda’r nos ar ôl bod yn helpu ei fab i symud tŷ. Ond dywedodd nad oedd esgus, yn enwedig gan ei fod wedi bod yn gysylltiedig â chyflwyno deddfwriaeth wrth-oryrru.

Ychwanegodd ei fod wedi bod yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu’n dibynnu ar bobl eraill i deithio o gwmpas.