Mark Drakeford
Fe fydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cael ei roi o dan fesurau arbennig yn dilyn methiannau yn y gofal yn ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd.

Roedd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford, Arolygaeth Iechyd Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cynnal trafodaethau heddiw i benderfynu os oedd angen cymryd camau pellach yn erbyn y bwrdd iechyd.

Daw hyn ar ôl yr adroddiad damniol gafodd ei gyhoeddi wythnos diwethaf oedd wedi canfod “camdriniaeth sefydliadol” yn ward iechyd meddwl Tawel Fan.

Dywedodd Mark Drakeford fod y penderfyniad yn “adlewyrchu pryderon difrifol” am y Bwrdd Iechyd dros gyfnod. Ychwanegodd na fyddai rhediad dydd i ddydd y gwasanaethau yn cael eu heffeithio.

Yn ôl teuluoedd rhai o’r cleifion oedd ar ward Tawel Fan roedden nhw’n cael eu trin fel anifeiliaid mewn sw, cyn i’r ward gael ei chau ym mis Rhagfyr 2013.

Mae cwynion yn erbyn deg aelod o staff wedi cael eu cyfeirio at gyrff proffesiynol, ond mae Heddlu Gogledd Cymru wedi penderfynu peidio â chymryd camau pellach ar ôl ymchwilio i’r honiadau o gamdriniaeth.

‘Pryderon difrifol’

Dywedodd Mark Drakeford: “O ganlyniad i’r cyfarfod a gynhaliwyd yn gynharach heddiw rhwng Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoleiddio, gallaf gadarnhau y bydd mesurau arbennig yn cael eu gosod ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

“Mae’n adlewyrchu pryderon difrifol sydd heb eu datrys ynghylch arwain, llywodraethu a chynnydd yn y Bwrdd Iechyd dros gyfnod. Mae’r meysydd o bryder wedi cael eu hasesu mewn ffordd drylwyr a chytbwys, a bydd hyn yn sail i gamau gweithredu’r mesurau arbennig.

“Tra bydd y sefydliad o dan fesurau arbennig, hoffwn roi sicrwydd i’r cleifion a’r cymunedau y mae’r Bwrdd Iechyd yn eu gwasanaethu a’r staff sy’n gweithio iddo y bydd gwasanaethau a gweithgareddau bob dydd yn parhau yn ôl yr arfer.”

Ystyried camau pellach

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried camau ac ymyriadau pellach fel rhan o’r mesurau arbennig, ac yn cael cyngor a chymorth gan gyrff rheoleiddio. Bydd y Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi manylion pellach mewn datganiad o flaen y Cynulliad yfory (dydd Mawrth).

‘Diogelwch cleifion’

Dywedodd Darren Millar AC, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Iechyd, y dylai’r Bwrdd Iechyd fod wedi bod mewn mesurau arbennig ers i broblemau llywodraethu gael eu nodi yn 2013.

Ychwanegodd mai’r mesurau arbennig yw’r cam cyntaf i droi’r sefydliad yn ddarparwr effeithiol o ofal iechyd o’r radd flaenaf, ble daw diogelwch cleifion yn gyntaf.

‘Penderfyniad drastig’

Dywedodd Aled Roberts, AC y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru fod y bwrdd iechyd “wirioneddol angen help”.

Meddai: “Rwy’n hynod siomedig fod y sefyllfa yma yng ngogledd Cymru wedi dirywio i’r fath raddau nes bod angen gwneud y penderfyniad drastig yma. Mae hwn yn fwrdd iechyd sydd wirioneddol angen help.

“Rydym bellach mewn tir newydd. Rhaid i’r Gweinidog Iechyd nodi ar unwaith yr hyn y bydd y penderfyniad yn ei olygu yn ymarferol a beth fydd yn ei olygu i gleifion.”