Y Corporal James Dunsby
Roedd un o dri milwr, fu farw yn ystod ymarfer ym Mannau Brycheiniog, wedi bod yn ceisio rhedeg er mwyn cyrraedd targed amser, clywodd cwest heddiw.

Cafodd y Corporal James Dunsby, 31, ei daro’n wael ar ol gorboethi wrth iddo geisio rhedeg yn ystod cymal olaf y daith gerdded 16 milltir mewn tymheredd o bron i 30 gradd selsiws.

Wrth roi tystiolaeth yn y cwest heddiw, dywedodd milwr arall – sy’n cael ei gyfeirio ato fel 4Y am resymau diogelwch – ei fod ef a James Dunsby wedi bod yn dringo Pen y Fan gyda’i gilydd ar 13 Gorffennaf 2013 a’i fod yn ymddangos yn flinedig.

Ond wrth iddyn nhw ddod i lawr y mynydd roedd James Dunsby, o Trowbridge yn Wiltshire, wedi penderfynu cyflymu er mwyn cwrdd â’r targed amser.

Dywedodd 4Y, a oedd hefyd yn cymryd rhan mewn profion i ddewis milwyr ar gyfer yr SAS: “Fe welais i James y tro olaf ar ol i ni fynd dros Pen y Fan a dod i lawr yr ochr arall.

“Fe redodd o fy mlaen i, gan ddweud y gallai gyrraedd ar amser. Nes i ddweud wrtho, ‘Mae’n ddrwg  gen i, ond alla’i ddim, alla’i ddim mynd mor gyflym’ a dyna’r tro olaf i mi ei weld.”

Roedd 4Y wedi cwblhau’r cwrs ond nid o fewn yr amser gofynnol.

Bu farw James Dunsby yn Ysbyty’r Frenhines Elizabeth yn Birmingham ar 30 Gorffennaf 2013 ar ol i’w organau fethu o ganlyniad i orboethi.

Clywodd y cwest nad oedd meddyg na hyfforddwr y fyddin wedi darllen dogfen gan y Weinyddiaeth Amddiffyn cyn y daith  a oedd yn cynnwys canllawiau ynglŷn â gorboethi.

Bu farw Craig Roberts, 24, o Fae Penrhyn ac Edward Maher, 31, yn dilyn y sesiwn hyfforddi.

Mae’r cwest yn Solihul yn parhau.