Bydd gweithwyr dur Tata Steel yn cynnal streic 24 awr – fydd yn effeithio miloedd o weithwyr dur yng Nghymru – oherwydd anghydfod dros bensiynau.
Bydd aelodau’r pedwar undeb llafur sy’n gweithio i Tata Steel yn streicio ar 22 Mehefin, a byddan nhw hefyd yn stopio gweithio oriau ychwanegol o ganol wythnos nesaf ymlaen.
Mae disgwyl i tua 13,000 o weithwyr, gan gynnwys 7,000 o weithwyr dur Tata yng Nghymru, gymryd rhan yn y streic – y cyntaf gan weithwyr dur ym Mhrydain ers 35 mlynedd.
Daw’r streic oherwydd bwriad cwmni Tata i roi diwedd ar gynllun pensiwn Dur Prydain. Mae degau o filoedd o gyn weithwyr hefyd yn rhan o’r cynllun.
Yn ôl yr undebau, y cwmni rhyngwladol o India sydd ar fai am wthio’r diwydiant at eu streic fawr gynta’ ers mwy na 30 mlynedd.
Fe gyhoeddodd Tata ym mis Mawrth eu bod yn dod â’r cynllun i ben, gan ddweud bod y diffyg ynddo’n eu gorfodi i wneud hynny.
Fe fyddai’r drefn newydd yn golygu bod rhaid i weithwyr aros tan eu bod yn 65 oed, yn hytrach na 60, cyn gallu hawlio pensiwn.
Dywedodd Dave Hulse, swyddog cenedlaethol undeb GMB, ei bod hi’n hen bryd i Tata ail-ddechrau sgyrsiau gyda’r undebau am amodau’r pensiwn.
Meddai Dave Hulse: “Mae ein haelodau yn barod i weithredu’n ddiwydiannol a dylai’r cwmni dalu sylw i’r neges fod eu gweithlu yn cyflawni.”