David Cameron
Mae David Cameron yn ymddangos fel ei fod wedi gwneud tro pedol gyda’i sylwadau am ddyletswyddau ei gabinet yn refferendwm Prydain i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Wrth siarad mewn cyfarfod o wledydd y G7 yn yr Almaen, rhybuddiodd y Prif Weinidog y byddai unrhyw weinidogion oedd yn ymgyrchu i adael yr Undeb Ewropeaidd yn gorfod ymddiswyddo.
Ond mae Downing Street yn mynnu nawr mai trafod ymddygiad aelodau o’r cabinet yn ystod y cyfnod o drafodaethau yr oedd David Cameron, nid cyfnod ymgyrch y refferendwm.
“Mae’r Prif Weinidog wedi gosod ei safbwynt yn ystod y trafodaethau a dim pellach na hynny,” meddai llefarydd ar ei ran.
‘Wedi ei gamddehongli’
Yn ôl Downing Street, fe gafodd sylwadau gwreiddiol David Cameron ynglŷn â’r refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd eu camddehongli.
Gofynnwyd i’r Prif Weinidog os oedd wedi penderfynu’n bendant na fyddai gweinidogion yn cael pleidlais rydd ar y mater pan fyddai’r refferendwm yn cael ei chynnal.
“Rydw i wedi bod yn glir iawn, sef os ydych chi eisiau bod yn rhan o’r llywodraeth mae’n rhaid i chi fod o’r farn ein bod ni’n cynnal y trafodaethau er mwyn cael refferendwm fydd yn arwain at ganlyniad llwyddiannus,” oedd ymateb David Cameron.
Pan ofynnwyd iddo wedyn a fyddai’n rhaid i unrhyw weinidogion oedd yn gwrthwynebu hynny ymddiswyddo, dywedodd y Prif Weinidog bod “pawb yn y llywodraeth wedi cytuno i’r rhaglen gafodd ei osod allan ym maniffesto’r Ceidwadwyr”.
Ond fe fynnodd llefarydd David Cameron nad oedd hynny wedi cael ei benderfynu’n derfynol.
“Y sefyllfa yw bod y Prif Weinidog heb ddweud beth yw ei safbwynt. Roedd y Prif Weinidog yn amlwg yn siarad am gyfrifoldeb cyfunol yn ystod y trafodaethau,” meddai’r llefarydd.