Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enwau’r ddau ddyn fu farw ddoe ar ôl mynd i drafferthion wrth nofio ger rhaeadr yn Llanberis.
Roedd Steffan Roberts Vernon, 33 oed ac o Gaernarfon, ac Alexander Hadley, 21, o Dinorwig wedi mynd i drafferthion fore dydd Sul.
Cafwyd hyd i gyrff y ddau ddyn ar ôl i’r gwasanaethau brys gael eu galw i’r safle ger rheilffordd yr Wyddfa fore ddydd Sul.
Cafodd dau berson arall 27 a 25 oed eu cludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad ond maen nhw bellach wedi gadael yr ysbyty.
Mae ymchwiliad Heddlu Gogledd Cymru yn parhau, ond fe ddywedodd y swyddog Alex Goss ei fod yn credu bod y dynion wedi mynd i mewn i’r dŵr ar ôl bod yn cerdded ar ddiwrnod poeth.
‘Trasiedi’
Dywedodd cynghorydd sir Deiniolen, sydd yn agos i Lanberis ac yn gartref i un o’r rhai fu farw yn y ddamwain, ei fod yn meddwl am y teulu ar hyn o bryd.
“Mae’n drasiedi mawr,” meddai’r cynghorydd Elfed Wyn Williams wrth golwg360.
“Rydw i’n cydymdeimlo â theulu’r dyn ifanc ar adeg fel hyn. Dydi o ddim yn newyddion ‘da chi’n disgwyl ei glywed.”