Mae undeb y GMB wedi dweud y bydden nhw’n fodlon cynrychioli gweithwyr o’r diwydiant ffracio os yw’r sector yn datblygu ym Mhrydain dros y blynyddoedd nesaf.

Penderfynodd yr undeb y byddan nhw’n fodlon bod yn gefn i weithwyr y diwydiant yn dilyn eu cyfarfod blynyddol yn Nulyn, yn wahanol i undebau eraill sydd wedi gwrthwynebu ffracio yn gyhoeddus.

Mae disgwyl nawr i’r undeb, sydd yn cynrychioli gweithwyr yn y diwydiant nwy, gomisiynu adroddiad i weld pa rôl allai nwy siâl gael yn nyfodol ynni Prydain.

“Mae neidio ar y bandwagon yn hawdd, ond dyw gwneud y peth hawdd ddim wastad yn golygu eich bod chi’n gwneud y peth iawn,” meddau swyddog cenedlaethol y GMB, Gary Smith.

“Byddai’n hawdd dod allan yn erbyn ffracio, ond fe fyddai hynny’n beth drwg i’r undeb, ac i’r wlad.”

‘Lleihau allyriadau carbon’

Dywedodd Gary Smith wrth gynhadledd y GMB y dylai’r undeb gydnabod realiti’r sefyllfa bod angen i Brydain ddefnyddio ynni nwy i leihau ei allyriadau carbon.

“Mae angen i’r diwydiannau ynni dwys allu cael mynediad i ffynonellau ynni saff a fforddiadwy. Mae angen sicrwydd y bydd cymysgedd ynni Prydain yn cyrraedd yr anghenion hynny. Maen nhw, fel cartrefi Prydain, angen i nwy fod yn rhan o’r gymysgedd ynni honno,” meddai’r swyddog.

“Mae’n rhaid i’r drafodaeth am ffracio fod yn seiliedig ar onestrwydd llwyr ynglŷn â realiti economaidd nwy.”

Rhyddhaodd pwerau gweithredol y GMB ddatganiad pellach yn holi a ddylai nwy gael ei fewnforio i Brydain o wledydd oedd heb yr un safonau gwaith ar gyfer eu gweithwyr, gan gwestiynu hefyd effaith amgylcheddol cludo’r ynni o dramor.

Rhai’r anghytuno

Nid pob un o aelodau’r undeb oedd yn cytuno â’r safbwynt hwnnw, fodd bynnag, gyda rhai o ddirprwyon y gynhadledd yn codi pryderon am beryglon ffracio.

Yn ôl rhai roedd y peryglon yn cynnwys effaith posib ar gyflenwadau dŵr yn ogystal â daeargrynfeydd, ac fe honnwyd nad oedd tystiolaeth bendant fod y broses o gael nwy allan o’r ddaear drwy ffracio yn ddiogel.

Cyhuddwyd y llywodraeth o fod yn “gung ho” ynglŷn â ffracio ac am beidio â chyhoeddi digon o wybodaeth i’r cyhoedd.