Alton Towers
Mae un o’r bobl gafodd eu hanafu’n ddifrifol mewn damwain yn Alton Towers wythnos diwethaf wedi colli ei choes, meddai meddygon.

Roedd Leah Washington, 17, o Barnsley yn ne Swydd Efrog, hefyd wedi torri ei  llaw yn y digwyddiad pan gafodd pedwar eu hanafu’n ddifrifol ar y rollercoaster, The Smiler pan darodd cerbyd yn erbyn cerbyd arall.

Mae ei thad, David Washington, wedi diolch i feddygon “am achub ei bywyd” wedi’r ddamwain ddydd Mawrth diwethaf.

Cafodd cariad Leah Washington, Joe Pugh, 18, hefyd driniaeth wedi iddo dorri ei ddau ben-glin.

Cafodd Daniel Thorpe o Buxton yn Swydd Derby, a Vicky Balch, 20, o Leyland yn Swydd Gaerhirfryn hefyd eu hanafu’n ddifrifol.

Dywedodd cyfreithiwr Vicky Balch wythnos ddiwethaf ei bod wedi cael anafiadau a allai newid ei bywyd yn y ddamwain ac mae disgwyl iddi wneud cais am “iawndal sylweddol” er mwyn ei helpu i wella, meddai.

Cafodd 12 o bobl eraill  fan anafiadau yn y ddamwain.

Daeth y cyhoeddiad wrth i’r parc yn Swydd Stafford ailagor i’r cyhoedd heddiw am y tro cyntaf ers dydd Mawrth diwethaf, tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i achos y ddamwain.