Mae Boots yn bwriadu cael gwared a thua 700 o swyddi fel rhan o ailstrwythuro’r busnes, cyhoeddwyd heddiw.

Ni fydd y toriadau yn effeithio staff sy’n gweithio yn ei siopau a dywedodd y cwmni y byddai’n dechrau trafodaethau gyda’r staff a fydd yn cael eu heffeithio yn fuan.

Fodd bynnag, ychwanegodd y cwmni y byddai’n rhoi adnoddau ychwanegol i’w uned ddigidol.

Dywedodd llywydd Boots, Simon Roberts, ei fod yn credu y bydd y cynllun yn gwneud Boots yn well i’w cwsmeriaid.

Daw’r cyhoeddiad gwta fis ar ôl i berchennog y cwmni, Alliance Boots, uno a grŵp fferyllfa Walgreens o’r Unol Daleithiau