Mae dau ddyn sydd wedi treulio blynyddoedd yn y carchar ar gam wedi colli eu brwydr am iawndal yn yr Uchel Lys heddiw.

Gofynnodd Sam Hallam, a gafwyd yn euog o lofruddiaeth, a Victor Nealon, a gafwyd yn euog o geisio treisio, i ddau farnwr ddyfarnu fod cyfraith y DU yn mynd yn groes i’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol oherwydd ei fod yn cyfyngu’r iawndal y gallen nhw ei gael.

Dyma’r tro cyntaf i bobl herio penderfyniad y glymblaid y llynedd i newid y rheolau ynglŷn â phwy sy’n gymwys am iawndal.

Treuliodd Sam Hallam fwy na saith mlynedd yn y carchar ac fe dreuliodd Victor Nealon 17 o flynyddoedd yn y carchar cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau.

Cafodd y ddau ddyn eu rhyddhau ar ôl i farnwyr y Llys Apêl ddweud fod tystiolaeth newydd yn golygu bod y dyfarniadau gwreiddiol yn anniogel.

Ond mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi gwrthod talu iawndal i’r ddau oherwydd nad yw’r dystiolaeth newydd yn dangos “y tu hwnt i amheuaeth resymol” nad oedden nhw wedi cyflawni’r troseddau.