Mae pedwar plentyn o Saudi Arabia wedi marw ar ôl cael eu gwenwyno yn anfwriadol wrth iddyn nhw ymweld ag Iran ar bererindod.

Yn ôl asiantaeth newyddion IRNA cafodd y plant – merch 14 oed a thri o fechgyn tair oed – eu gwenwyno yn y gwesty lle’r oedden nhw’n aros.

Cafodd 28 o bobl eraill o Saudi Arabia oedd yno ar bererindod eu cludo i’r ysbyty ar ôl dod i gyswllt â’r gwenwyn, sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio i ladd pryfed a llygod mawr.

Fe ddigwyddodd y ddamwain yn ninas Mashhad yng ngogledd ddwyrain Iran, cartref i gysegr Mwslimaidd Shiaidd fawr.

Mae bron i ddwy filiwn o bobl yn ymweld â’r cysegr bob blwyddyn gan ddod o wledydd megis Saudi Arabia, Irac, Bahrain, Azerbaijan a chyfandir India.

Mae’r awdurdodau yn parhau i ymchwilio i’r ddamwain ar hyn o bryd.